14/04/2016

A4c: ASESU DULLIAU CLUDIANT


NODAU

1. Adnabod y ffactorau sydd yn asesu dulliau cludiant (C, C, C, A, A, H, LL)
2. Defnyddio'r ffactorau CCCAAHLl
3. Deall bod yna ffactorau i'w hystyried CYN mynd ar daith (MY CAR HAS a GREEN HAZARD ALARM)

TERMAU:
  • ASESU: Cost, Cyfleustra, Cysur, Argaeledd, Amlder, Hygyrchedd, Llwybrau Addas
  • FFACTORAU CYN TEITHIO: Man cychwyn a gorffen; Hyd y daith, y Grŵp sy'n teithio, Hyd yr arhosiad; Adeg o'r flwyddyn/tywydd
Gwyliwch y fideo isod i adolygu'r 7 ffactor (CCCAAHLl):


Cofiwch ddefnyddio eich taflen waith (Pecyn Cludiant pinc) wrth adolygu'r ffactorau i'w hystyried cyn mynd ar daith


CYN-GWESTIYNAU:

  • “Trafodwch y ffactorau y bydd angen i bobl fusnes eu hystyried wrth ddewis eu dull cludiant” (6)
  • “Eglurwch ddau ffactor y gallai fod angen i dwristiaid eu hystyried wrth deithio”
  • "Mae athro yn bwriadu mynd â 40 o fyfyrwyr Bl. 11 i gyrchfan Ewropeaidd am ymweliad astudio 3 diwrnod. Amlinellwch y ffactorau y byddai angen i'r athro eu hystyried wrth benderfynu ar y dulliau cludiant mwyaf addas"


No comments:

Post a Comment